Menter Aberteifi
Mae Menter Aberteifi yn gwmni adfywio cymunedol sydd a’i ganolfan yn ardal Aberteifi. Sefydlwyd y Fenter yn wreiddiol yn 1996 gyda’r nod penodol o “hyrwyddo a gosod ar waith adfywiad llwyddiannus Tref Aberteifi, a hynny er lles y gymuned”. Ers y cyfnod hwnnw mae’r sefydliad wedi datblygu yn gwmni cyfyngedig trwy warant ‘dielw’ sy’n cael ei weithredu gan Fwrdd o Gyfarwyddwyr etholedig.
Board of Directors Cyf
Bwrdd Cyfarwyddwyr
- Mr Julian Beynon-Lewis
- Mr Jay Bura
- Ms Olwen Davies
- Mr Tom Parry
- Mr Arwyn Reed
- Mrs Nerys Evans
- Mrs Sian Maehrlein
- Mr Mark Williams
Cynrychiolwyr Penodedig
- Mr Tim Phillips (Siambar Fasnach)
- Cyng Elaine Evans (Cyngor Dref Aberteifi)
- Cyng Marily Farmer (Cyngor Dref Aberteifi) – Dirprwy
- Cyng Rhodri Evans (Cyngorydd Sir)
- Mr Martin Radley (Masnachwyr Aberteifi)
- Mr Huw Thomas (Coleg Ceredigion)
- Mrs Lindsay Sheen (Ymddiriedolaeth Cadwraeth Adeiladau Aberteifi
- Mynychwr Wahoddwyd – Gareth Rowlands (Cyngor Sir Ceredigion)
Mae Menter Aberteifi wedi mynd o nerth i nerth ac wedi tyfu yn ei faintioli fel sefydliad “llawr gwlad” sy’n cynorthwyo i hwyluso a datblygu prosiectau adfywio cymunedol yn ardal Aberteifi; mae wedi ennill enw da hefyd fel grŵp adfywio cymunedol rhagweithiol sy’n cynorthwyo ac yn gweithredu fel rhyngwyneb rhwng cyrff gwirfoddol a chyrff statudol.
Mae’r cwmni yn agor ei ddrysau i bawb sy’n pryderu am agweddau ar economi ac amgylchedd ffisegol neu gymdeithasol tref Aberteifi a’r cyffiniau, gan gynnig i’r trigolion lleol lwybr o ymwneud gweithredol anwleidyddol er mwyn mynd i’r afael ag anghenion y gymuned. Yn ystod y blynyddoedd a aeth heibio, mae cannoedd o unigolion a llawer o grwpiau gwirfoddol wedi cymryd rhan yng ngweithgareddau’r cwmni.