Polisi Preifatrwydd

Yn y polisi hwn, mae “Ni” ac “Ein” yn cyfeirio at “Menter Aberteifi” ac unrhyw un sy’n gyflogedig gennym neu sy’n gweithio ar ein rhan.

Datganiad Cwcis: Rydym yn defnyddio cwcis i helpu i wella ein safle. Trwy barhau i ddefnyddio ein safle, rydych yn caniatáu eu defnydd. Am ragor o wybodaeth am eincwcis a sut i newid gosodiadaucwcis eich porwr, darllenwch yr isod.

Mae’r Polisi Preifatrwydd hwn yn esbonio sut y byddwn yn defnyddio unrhyw wybodaeth a rowch i ni wrth i chi ddefnyddio’r wefan hon a sut y byddwn yn ei diogelu. Rydym yn ymrwymo i amddiffyn eich preifatrwydd. Efallai y byddwn ni’n gofyn i chi ddarparu gwybodaeth a allai fod yn unigryw i chi wrth i chi ddefnyddio’r wefan hon. Gallwch fod yn sicr y byddwn ni ond ei defnyddio yn unol â’r datganiad hwn. Gallai’r polisi newid o dro i dro, a byddwn ni’n diweddaru’r dudalen hon. Dylech chi edrych ar y dudalen hon yn rheolaidd i sicrhau eich bod chi’n fodlon â’r newidiadau.

Casglu gwybodaeth

Ffeiliau cofnodi

Rydym yn casglu gwybodaeth fel ffeiliau cofnodi arferol ac yn monitro gweithgarwch defnyddwyr wrth i rywun ymweld â’n gwefan. Rydym yn gwneud hyn er mwyn cael gwybod faint o ddefnyddwyr sy’n ymweld â gwahanol rannau o’r safle, er enghraifft. Ni allwn ddefnyddio’r wybodaeth hon i’ch adnabod yn bersonol. Ni fyddwn ni’n gwneud unrhyw gais am i chi ddatgelu pwy sy’n ymweld â’n gwefan trwy ddefnyddio’r data yn y ffeiliau. Ni fyddwn ni’n cysylltu unrhyw wybodaeth a gesglir o’r safle hwn ag unrhyw wybodaeth bersonol o unrhyw le arall.

Storio’ch dewis iaith

Bydd eich dewis iaith yn cael ei gofnodi ar y safle hwn (Cymraeg neu Saesneg). Ar ôl dewis iaith, byddwn ni’n gosod cwci. Mae hynny’n golygu na fydd eisiau i chi nodi’ch dewis iaith bob tro y byddwch chi’n defnyddio’r wefan hon. Trwy ddewis iaith byddwch chi’n rhoi’ch caniatâd i ni osod ffeil fach ar eich dyfais.

Enw: Dewis Iaith
Cynnwys: Cod iaith deuair ISO CY neu EN
Terfynu: 14 niwrnod.

Ffurflenni sylwadau ac ymholiadau

Mae modd i ymwelwyr â’n gwefan osod sylwadau neu gysylltu â ni trwy lenwi ffurflen gyswllt. Rydym yn casglu’r wybodaeth ganlynol:

  • Manylion cyswllt e.e. Enw, Cyfeiriad e-bost, Cyfeiriad gwe
  • Cyfeiriad IP
  • Sylw
  • Ymholiad

Mae angen yr wybodaeth hon arnom er mwyn:-

  • Gwella’n cynhyrchion a’n gwasanaethau
  • Annog cyfranogiad ein defnyddwyr a hwyluso trafodaeth ar ein gwefan
  • Gallu ymateb i ymholiadau defnyddwyr
  • O bryd i’w gilydd, efallai y byddwn ni’n anfon e-bost atoch chi i hysbysebu cynhyrchion newydd, cynigion arbennig a gwybodaeth arall a allai fod o ddiddordeb, gan ddefnyddio’ch cyfeiriad e-bost. Cewch gyfle i dynnu’n ôl a gwrthod y gwasanaeth hwn.

Cwcis

Ffeiliau bach yw cwcis sy’n cael eu gosod ar eich cyfrifiadur gan y gwefannau yr ydych chi’n ymweld â nhw. Maen nhw’n cael eu defnyddio’n rheolaidd er mwyn sicrhau bod gwefannau’n gweithio neu’n gweithio’n fwy effeithiol, a hefyd i ddarparu gwybodaeth i berchnogion y wefan. Rydym yn defnyddio cwcis er mwyn darparu’n cynhyrchion a’n gwasanaethau, a’u gwella, ac er mwyn bod yn gystadleuol. Ni fydd y cwcis yn cael eu rhannu ag unrhyw un arall.

Y cwcis yr ydym ni’n eu defnyddio:

Google Analytics:

Rydym yn defnyddio Google Analytics er mwyn sicrhau bod ein gwefan yn bodloni anghenion ein defnyddwyr ac i flaenoriaethu gwelliannau. Ceir mwy o fanylion ar safle Google: Google privacy and cookie policy page. Hefyd, mae Google yn darparu browser add-on sy’n eich galluogi i dynnu’n ôl o Google Analytics ar bob gwefan.

Mae Google Analytics yn casglu gwybodaeth anhysbys am ddefnydd gwefan, gan gynnwys nifer yr ymwelwyr â’r safle, o ble maen nhw wedi cyrraedd a thrywydd y tudalennau y mae’r defnyddiwr yn ymweld â nhw yn ystod ei ymweliad. Mae hefyd yn gwirio faint o amser mae rhywun yn aros ar y safle.

Nid yw’r cwcis yn casglu gwybodaeth sy’n datgelu pwy yw’r ymwelwyr, ac ni chysylltir eich cyfeiriad IP ag unrhyw wybodaeth bersonol.

Rydym yn defnyddio cwcis Google Analytics fel a ganlyn.

Enw: _utma Cynnwys nodweddiadol: rhif a gynhyrchir ar hap Terfynu: 2 flynedd

Enw: _utmb Cynnwys nodweddiadol: rhif a gynhyrchir ar hap Terfynu: 30 munud

Enw: _utmc Cynnwys nodweddiadol: rhif a gynhyrchir ar hap Terfynu:Pan mae’r defnyddiwr yn gadael y porwr

Enw: _utmz Cynnwys nodweddiadol: rhif a gynhyrchir ar hap a gwybodaeth am sut yr ydych wedi cyrraedd y dudalen (e.e. naill ai’n uniongyrchol neu trwy linc, chwiliad organig neu chwiliad a dalwyd amdano) Terfynu: 6 mis

Enw: __utmmobile Cynnwys nodweddiadol: rhif a gynhyrchir ar hap Terfynu: 2 flynedd

Mae’r rhan fwyaf o borwyr yn caniatáu rhywfaint o reolaeth dros y mwyafrif o gwcis drwy osodiadau’r porwyr. Am ragor o wybodaeth ynglŷn â cwcis, gan gynnwys sut i’w rheoli a’u dileu, ac i weld pa gwcis sydd wedi cael eu gosod, ewch i www.allaboutcookies.org.

Diogelwch

Rydym yn ymrwymo i sicrhau bod eich gwybodaeth bersonol yn ddiogel. Er mwyn rhwystro mynediad neu ddatgeliad heb awdurdod, rydym wedi gosod gweithdrefnau ffisegol, electronig a rheolaethol yn eu lle i ddiogelu’r wybodaeth a gasglwn ar-lein a’i chadw’n ddiogel.

Dolenni o’n gwefan

Gall ein gwefan gynnwys dolenni at safleoedd eraill, er gwybodaeth i chi yn unig. Os defnyddiwch y dolenni hyn, byddwch yn gadael ein gwefan, ac ni allwn fod yn gyfrifol am ddiogelwch na phreifatrwydd unrhyw wybodaeth a roddwch wrth ymweld â safleoedd o’r fath, ac nid yw safleoedd o’r fath yn cael eu rheoli gan y datganiad preifatrwydd hwn. Dylech fod yn ofalus ac edrych ar y datganiad preifatrwydd sy’n berthnasol i’r wefan dan sylw.

Rheoli’ch gwybodaeth bersonol

Ni fyddwn yn gwerthu’ch gwybodaeth bersonol, na’i dosbarthu, na’i rhoi ar les i unrhyw un arall heb eich caniatâd neu onid oes gofyn i ni wneud hynny’n gyfreithiol. O bryd i’w gilydd, efallai y byddwn yn defnyddio’ch gwybodaeth bersonol i anfon gwybodaeth hyrwyddol atoch ynghylch pobl/pethau eraill a fyddai o ddiddordeb i chi yn ein barn ni, os ydych yn dweud wrthym eich bod am i ni wneud hynny.

Cewch ofyn am fanylion gwybodaeth bersonol sydd gennym amdanoch dan Ddeddf Diogelu Data 1998. Fe fydd angen talu ffi fach. Os dymunwch cael copi o’r wybodaeth sydd gennym amdanoch, ysgrifennwch aton ni os gwelwch yn dda. Os ydych yn credu bod unrhyw wybodaeth sydd gennym amdanoch yn anghywir neu’n anghyflawn, a wnewch chi ysgrifennu atom neu anfon e-bost atom cyn gynted â phosib os gwelwch yn dda, i’r cyfeiriad uchod. Fe fyddwn yn cywiro unrhyw wybodaeth sy’n anghywir yn brydlon.

Rhannu'r dudalen hon: