Hanes
1820 yw’r flwyddyn. Mae’n ddiwrnod marchnad a’r dref yn ferw gwyllt gan brysurdeb. Mae pob dim yn cael ei werthu ar y strydoedd yn yr awyr agored. Mae’r cig sydd ar werth yn hongian ar fachau sy’n sownd wrth furiau adeiladau; mae lloi bach yn cael eu lladd yn ôl y galw a’r perfeddion yn cael eu taflu ar ôl eu tynnu, a llaeth yn cael ei arllwys yn lwtsh i ystenau a bwcedi. Mae’r holl gynhyrchion hyn yn cael eu cynnig i’r cyhoedd i’w bwyta er bod y cyfan yn gwbl agored i’r elfennau, anifeiliaid a phryfetach, ochr yn ochr â nwyddau haearn a phopeth arall sydd ar gael ar stondinau marchnad. A’r cyfan oll ymhlith gweddillion marchnad yr wythnos gynt sydd yno’n pydru.
Roedd y dref yn tyfu ac angen ei glanhau a’i chymhennu. Yn 1822 aeth pobydd a thafarnwr llewyrchus o’r enw William Phillips ati i adeiladu neuadd farchnad a lladd-dy ar waelod Lôn y Farchnad (Market Lane) yn y Mwldan. Gosododd yr adeilad ar brydles i’r Gorfforaeth am 99 mlynedd, a hynny am rent blynyddol o £20. Cyn hir, serch hynny, aeth yr adeiladau hyn yn rhy fach ac arllwysodd y farchnad allan i’r strydoedd unwaith eto. Yn 1836 penderfynodd Cyngor y Dref i basio deddf leol fyddai’n golygu y cai’r dref ei thacluso a’r farchnad ei chadw’n lân. Byddai’r rhai hynny oedd yn gwrthod cydymffurfio yn cael eu dirwyo.
Parhaodd y dref i dyfu fel canolfan farchnad ac roedd bod heb adeilad addas ar gyfer marchnad yn achosi ‘trafferthion mawr’ iddi, yn ôl y sôn. Roedd yn amlwg bod rhaid gwneud rhywbeth. Yn 1855 gofynnodd Cyngor y Dref am gyngor cwmni o gyfreithwyr yn Llundain a chawsant glywed bod modd corffori’r holl welliannau angenrheidiol mewn un Ddeddf Seneddol, a hynny ar gost o £600 yn unig.
Roedd yna wrthwynebiadau, wrth gwrs, oherwydd byddai’r cynllun newydd yn golygu cau’r farchnad bresennol, ond talwyd £100 yr un i berchnogion yr adeilad fel iawndal ac felly bu’n bosib dechrau ar y gwaith o godi adeilad newydd y farchnad.
Y safle a ddewiswyd ar gyfer Neuadd newydd y Farchnad oedd Tyle’r Ysgol Rydd (Free School Bank) – y llethr sydd i’w weld ychydig y tu hwnt i leoliad Porth y Gogledd nôl yn y Canol Oesoedd – ac sy’n llecyn amlwg ar ben uchaf Stryd y Priordy, oedd yn cael ei thorri trwodd bryd hynny. Byddai’r ysgol ramadeg, fu’n defnyddio’r safle ers 1804, yn cael ei hailgartrefu yn yr adeilad newydd. Roedd y lladd-dy i’w godi ymhell oddi yma ar safle tai’r tlodion wrth ymyl Bath House yn ardal Mwldan Uchaf. Erbyn Tachwedd 1856 roedd y cynlluniau wedi eu cymeradwyo ac ym mis Gorffennaf 1857 pasiwyd y Ddeddf Seneddol angenrheidiol, a hynny ar gost o £943.
Agorwyd yr Adeiladau Cyhoeddus yn swyddogol ar 9fed Gorffennaf 1860 a chafodd y marchnadoedd eu hagor ar y diwrnod canlynol. Yn ôl W.J. Lewis yn ‘The Gateway to Wales, a History of Cardigan’, 1990:
‘Gosodwyd y Garreg Sylfaen ar 8fed Gorffennaf gan y Maer, R.D. Jenkins, i fonllefau o orfoledd ac i gyfeiliant clychau Eglwys y Santes Fair a thaniwyd tair rownd o ganon y Gorffolaeth yn Netpool gan Mri. Donald a Stephens, pensiynwyr o’r fyddin. Dosbarthwyd casgen naw galwyn o gwrw du – ‘porter’ ymhlith y gweithwyr; roedd y strydoedd wedi eu haddurno a chynhaliwyd gorymdaith a ymwelodd yn gyntaf â’r adeilad newydd ar Dyle’r Ysgol Rydd (Free School Bank) cyn mynd ymlaen i safle’r lladd-dy newydd (Mwldan), yn ôl drwy Feidrfair (St. Mary’s Lane), a Stryd y Santes Fair (St. Mary Street) i’r Groes (Cross), drwy Stryd y Bont (Bridge Street) i Ben-y-bont (Bridgend) ac yn ôl i Neuadd y Sir (Shire Hall).’
Mae’r cynllun yn dangos y farchnad gyda’r stondinau cig ar yr ochr Ogleddol ac yna dofednod, menyn a chaws ar ochr Ddeheuol y llawr uchaf. Ar y llawr isaf, byddai anifeiliaid yn cael eu gwerthu’n fyw ac yna’u tywys i’r Lladd-dy newydd (a godwyd dan yr un cytundeb) yn y dyffryn, rhyw ddau canllath i’r Gogledd (Theatr Mwldan heddiw).
Pensaernïaeth
Hwn oedd yr adeilad dinesig cyntaf ym Mhrydain i’w godi yn y dull ‘Gothig modern’ – y dull a gymeradwyai John Ruskin. Mae’n cynnwys dylanwad Arabaidd sydd i’w weld yn glir yn addurn y bwa yn Neuadd y Dref (Guildhall) ac yn Neuadd y Farchnad. Adlewyrchwyd y diddordeb cenedlaethol yn y cynllun hwn ar y pryd gan ddarlun yn ‘The Building News’, 1859 ac mae arbenigwyr ym maes pensaernïaeth Oes Fictoria yn dal i’w ystyried yn enghraifft eithriadol brin yng nghyd-destun adeiladau cyhoeddus Gothig.
Dau wagle cwbl wahanol yw dau lawr y farchnad. Mae cymeriad canoloesol yn perthyn i’r is-farchnad gyda’i cholofnau crynion a’i chrymdoeau sy’n cael eu goleuo gan gafn golau o’r llawr uchaf a’r ffenestri sydd i’w gweld ym muriau’r De a’r Gorllewin. O boptu’r cafn golau agored yn y canol gwelir bwâu Gothig, dau i’r Dwyrain a’r Gorllewin, a thri i’r Gogledd a’r De, ac mae cylch allanol o golofnau crynion yn ei amgylchynu. Mae i’r colofnau rhyw symlrwydd cydnerth, gwaelod crwn sy’n tapro a siafftiau crynion sy’n broesio ar y brig i ffurfio sgwâr. Mae bwâu Gothig y cafn golau yn adlewyrchu’r bwâu sydd i’w gweld ar y tu allan mewn carreg Focs am yn ail â’r haen allanol o frics coch. Gosodwyd y grisiau canolog sy’n arwain i’r llawr uchaf yn 1969 pan godwyd y llawr estyllog canolog gwreiddiol. Yng nghornel y De Ddwyrain mae’r grisiau carreg cywrain gyda’u canllaw enfawr o garreg, a grymwyd yn gain serch hynny, sy’n arwain i’r llawr uchaf. Mae presenoldeb naw ffenestr fawr a’r cafn golau yn golygu bod yr is-farchnad wedi ei goleuo’n gymharol dda, er ei bod yn dywyllach ar hyd muriau’r Dwyrain a’r Gogledd sydd heb unrhyw ffenestri. Fflagiau llechi sydd ar y lloriau ac eithrio yn ardal y cafn golau, lle ceir concrit modern.
Mae’r uwchfarchnad yn ofod llawer goleuach ac mae’n derbyn golau o gribau gwydrog y pedwar to o’u cwmpas ac o lantern wydr ar y to talcennog dros y cafn golau Gothig. Roedd y muriau allanol sydd heb ffenestri wedi eu rhannu’n gyplau ar un adeg, gan barwydydd o bren mwy na thebyg, gyda math o belmet ar draws pob cwpwl yn arddangos enw’r masnachwr. Mae’r llawr wedi’i balmantu â slabiau mawr o lechi. Mae dylanwad y dwyrain canol i’w weld yn y pyrth bwaog rhesog o amgylch y cafn golau ac ar arwyneb allanol yr adeilad. Mae’r uwchfarchnad yn arwain i’r cowrt neu’r clos sydd ar lefel y brif stryd, gyda’r ddwy ffenest yn cael eu darlunio fel pyrth bwaog mynedfa agored yn y cynlluniau gwreiddiol. Cafodd yr adeilad ei ddefnyddio’n barhaus fel marchnad ers ei agor yn 1860 er gwaethaf nifer o ymdrechion amharchus yn y gorffennol i newid yr adeilad a’r defnydd a wneir ohono.
Llechi glas Ordofigaidd o’r chwareli yng Nghilgerran yw’r prif ddefnydd ar gyfer y muriau, ynghyd â bandiau llorweddol cul o frics coch.
Lluniau Hanesyddol Marchnad Neuadd y Dref (Guildhall) Aberteifi